Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Medi 2015
Amser: 09.02 -
11.09
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3227
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
Tystion: |
David Anderson, Amgueddfa Cymru Colin John, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Avril Jones, Llyfrgell Genedlaethol Cymru David Michael, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Neil Wicks, Amgueddfa Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Terry Lewis (Swyddfa Archwilio Cymru) Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru) Steve Wyndham (Swyddfa Archwilio Cymru) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod cyfrifon blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer 2014-15, gan holi David Michael, y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, Colin John, Trysorydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac Avril Jones, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
3.2 Cytunodd David Michael i ddarparu copi o’r Adolygiad a wnaed gan Price Waterhouse Coopers, ac amserlen ar gyfer rhoi’r argymhellion a geir yn yr Adolygiad hwnnw ar waith.
4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod cyfrifon blynyddol Amgueddfa Cymru ar gyfer 2014-15, gan holi David Anderson, y Cyfarwyddwr Cyffredinol, a Neil Wicks, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol, Amgueddfa Cymru.
4.2 Cafwyd datganiad o fuddiant gan Julie Morgan AC fel aelod o Grŵp Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn y Cynulliad Cenedlaethol.
4.3 Cytunodd David Anderson i ddarparu nodyn yn dangos dadansoddiad o’r gost o £6.5m am weithgareddau elusennol o ran gweithrediadau’r amgueddfa.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 The paper was noted.